Location: FDA Cardiff Office with hybrid working provision, but there is a clear expectation for national officers to attend offices (including FDA HQ in London Bridge) on a regular basis for team or other meetings/collaboration and you will be expected to undertake face to face meetings and work with members, branches and employers which can be in a range of locations.
We are looking to recruit a National Officer for Cymru/Wales.
For over a century the FDA has been a strong, pragmatic trade union representing public sector leaders and professionals working in the civil service and parliaments across the UK. The FDA is not party-political and seeks to improve members’ working lives and the public services they deliver through negotiating and campaigning. We act as a powerful voice for public services and the people who deliver them, with an influential membership of more than 22,000 senior managers, policy advisors, diplomats, tax professionals, economists, solicitors, prosecutors and other professionals working across government and the NHS.
Your role
The National Officer’s primary responsibilities will be representation, negotiation and organising in their allocated pitches. A more detailed summary of the key responsibilities of the role together with an outline of the skills, experience and personal qualities that we are seeking for this position are set out in the job description and person specification.
The FDA opened its dedicated Cymru/Wales office in Cardiff four years ago as part of our broader organising strategy. The FDA has membership within civil service employers in Wales including: Welsh Government, Welsh Parliament, Estyn, and Welsh museums and libraries as well as some UK civil service employers. In addition to being the public face of the union in Wales, the role will require the successful candidate to represent the FDA within the Wales TUC General Council. A key element of the role is to continue to build the union’s strength and profile within Wales.
What we are looking for
This is a challenging role. The post is based at the FDA office in Cardiff and the successful candidate will often be working alone so will need to be highly motivated and self-starting. Our FDA Head Office is in central London and the role does, on occasion, involve some travel throughout the UK. The FDA offers a good package of terms and conditions including 31 days annual leave and a high quality defined benefit pension scheme. You’ll be part of the FDA’s team of national officers, with the opportunity to enhance your skills and experience with tailored development and support.
The FDA is committed to equality of opportunity and treatment both in the service it provides to its members and as an employer.
Prior experience as a national official is not essential, although all applicants will need to demonstrate a successful track record in their field of related expertise.
To apply candidates should submit a curriculum vitae together with a cover letter of no more than 750 words, outlining why your skills, experience and motivation make you the right person for the job.
Submit your CV and cover letter by email, for the attention of (FAO) Esther Farnese via the button below.
Closing date for receipt of CV’s and cover letter is: 12 January 2024.
Interviews will be held on: 24 January 2024.
Hysbyseb Swydd: Swyddog Cenedlaethol FDA Cymru
Yn atebol i: Ysgrifennydd Cyffredinol Cynorthwyol
Oriau: 35 awr yr wythnos, i’w gweithio’n hyblyg
Ystod cyflog: £53,000 - £67,000
Pensiwn: Cynllun pensiwn buddion diffiniedig ar gyfartaledd gyrfa o ansawdd da
Lleoliad: Swyddfa FDA Caerdydd, gyda darpariaeth gweithio hybrid, ond mae disgwyl clir i swyddogion cenedlaethol fynychu swyddfeydd (gan gynnwys Pencadlys yr FDA ym Mhont Llundain) yn rheolaidd ar gyfer cyfarfodydd tîm neu gyfarfodydd/cydweithrediadau eraill a bydd disgwyl i chi gynnal cyfarfodydd wyneb yn wyneb a gweithio gydag aelodau, canghennau a chyflogwyr a all fod mewn amrywiaeth o leoliadau.
Rydym yn awyddus i recriwtio Swyddog Cenedlaethol ar gyfer Cymru.
Ers dros ganrif mae’r FDA wedi bod yn undeb llafur cryf a phragmatig sy’n cynrychioli arweinwyr a gweithwyr proffesiynol yn y sector cyhoeddus sy’n gweithio yn y gwasanaeth sifil a seneddau ledled y DU. Nid yw’r FDA yn bleidiol-wleidyddol ac mae’n ceisio gwella bywydau gwaith aelodau a’r gwasanaethau cyhoeddus y maent yn eu darparu drwy negodi ac ymgyrchu. Rydym yn gweithredu fel llais pwerus ar gyfer gwasanaethau cyhoeddus a’r bobl sy’n eu darparu, gydag aelodaeth ddylanwadol o dros 22,000 o uwch reolwyr, cynghorwyr polisi, diplomyddion, gweithwyr treth proffesiynol, economegwyr, cyfreithwyr, erlynwyr a gweithwyr proffesiynol eraill sy’n gweithio ar draws y llywodraeth a’r GIG.
Eich rôl
Prif gyfrifoldebau’r Swyddog Cenedlaethol fydd cynrychioli, negodi a threfnu yn eu meysydd dynodedig. Ceir crynodeb mwy manwl o gyfrifoldebau allweddol y rôl, ynghyd ag amlinelliad o’r sgiliau, y profiad a’r rhinweddau personol yr ydym yn chwilio amdanynt ar gyfer y swydd hon yn y disgrifiad swydd a manyleb y person.
Agorodd yr FDA ei swyddfa benodol yng Nghymru bedair blynedd yn ôl fel rhan o’n strategaeth drefnu ehangach. Mae gan yr FDA aelodaeth o blith cyflogwyr y gwasanaeth sifil yng Nghymru, gan gynnwys: Llywodraeth Cymru, Cynulliad Cenedlaethol Cymru, Estyn, amgueddfeydd a llyfrgelloedd Cymru, yn ogystal â rhai cyflogwyr gwasanaeth sifil y DU. Yn ogystal â bod yn wyneb cyhoeddus yr undeb yng Nghymru, bydd y rôl yn galw ar yr ymgeisydd llwyddiannus i gynrychioli’r FDA yng Nghyngor Cyffredinol TUC Cymru. Elfen allweddol o’r rôl yw parhau i adeiladu cryfder a phroffil yr undeb yng Nghymru.
Yr hyn rydym ni’n chwilio amdano
Mae hon yn rôl heriol. Mae’r swydd wedi’i lleoli yn swyddfa’r FDA yng Nghaerdydd a bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn aml yn gweithio ar ei ben ei hun, felly bydd angen iddo fod yn llawn cymhelliant ac yn gallu ysgogi ei hun. Mae Prif Swyddfa yr FDA yng nghanol Llundain ac, o bryd i’w gilydd, mae’r rôl yn golygu rhywfaint o deithio ledled y DU. Mae’r FDA yn cynnig pecyn da o delerau ac amodau, gan gynnwys 31 diwrnod o wyliau blynyddol a chynllun pensiwn buddion diffiniedig o ansawdd uchel. Byddwch yn rhan o dîm swyddogion cenedlaethol yr FDA, gyda’r cyfle i wella eich sgiliau a’ch profiad gyda datblygiad a chymorth wedi’u teilwra.
Mae’r FDA wedi ymrwymo i gyfle cyfartal a thriniaeth gyfartal o ran y gwasanaeth y mae’n ei ddarparu i’w aelodau ac fel cyflogwr.
Nid yw profiad blaenorol fel swyddog cenedlaethol yn hanfodol, er y bydd angen i bob ymgeisydd arddangos llwyddiant blaenorol yn eu maes arbenigedd cysylltiedig. Yr ystod cyflog ar gyfer swyddogion cenedlaethol yw £53,000 i £67,000 – bydd y cyflog cychwynnol yn dibynnu ar brofiad.
I ymgeisio
I wneud cais, dylai ymgeiswyr gyflwyno curriculum vitae ynghyd â llythyr eglurhaol o ddim mwy na 750 o eiriau, yn amlinellu pam fod eich sgiliau, eich profiad a’ch cymhelliant yn golygu mai chi yw’r person iawn ar gyfer y swydd. Cyflwynwch eich CV a’ch llythyr eglurhaol drwy e-bost, at sylw (FAO) Esther Farnese: [email protected].
Y dyddiad cau ar gyfer derbyn CV a llythyr eglurhaol yw: 12 Ionawr 2024
Cynhelir cyfweliadau ar: 24 Ionawr 2024